Dy babell Di mor hyfryd yw,
O Arglwydd Dduw y lluoedd;
Mynych chwennychais weled hon,
Gan mor dra thirion ydoedd.
Y man bôst Ti, boed fryn neu fro,
Sydd gyflawn o ddyddanwch;
Yn dy gynteddau'n wastad mae,
Oes, fôr didrai o heddwch.
Fy enaid flysia fyn'd ar frys
I'th gyssegr-lys yn hylwydd;
Mae'm calon bach, a'm cnawd bob cam
Yn gwaeddi am yr Arglwydd.
Am dd'od i'th wydd 'rwyf
nos a dydd,
Fel hydd lluddedig gwirion,
A red dan frefu 'mlaen bob cam
I ymofyn am yr afon.
O! dwg fy enaid llesg i'r lan,
I'r man 'r wyt Ti'n preswylio;
Wrth deithio'r anial mawr yn hir
'R wyf wedi gwir ddiffygio.
1 : Edmwnd Prys 1544-1623
Tonau [MS 8787]:
gwelir: |
Thy tent, how delightful it is,
O Lord God of the hosts;
Often I desired to see this,
Because of how amiable it was.
The place thou art, be it hill or vale,
Is full of comfort;
In thy courts constantly there is,
Yes, an unebbing sea of peace.
My soul craves to go hurriedly
Into thy sanctuary successfully;
My little heart and my flesh every step, are
Shouting for the Lord.
Wanting to come into thy presence I am,
night and day,
Like an exhausted, innocent, hind,
Which runs bleating forward every step
To seek for the river.
O bring my fainting soul up
To the place where Thou art residing;
While long travelling the great desert
I am truly tired.
tr. 2015 Richard B Gillion |
|